top of page

Fy Ymagwedd

Fel seicotherapydd mewn hyfforddiant clinigol uwch, mae fy ymagwedd yn seiliedig ar y dull Dadansoddi Rhyngweithredol, sy'n golygu fy mod yn edrych ar sut mae ein profiadau o dyfu i fyny yn siapio'r ffordd rydyn ni'n meddwl, teimlo, ac ymddwyn wrth dyfu’n oedolion, gan gynnwys ein hymdeimlad o’n hunan a'n perthnasoedd ag eraill.

​​

Rwy'n gweithio gydag ystod eang o bobl ond mae gen i ddiddordeb arbennig mewn hunaniaeth, mabwysiadu (a minnau’n rhiant mabwysiadol fy hun), perthnasoedd a'r ffyrdd rydyn ni'n dysgu addasu i'r systemau a'r teuluoedd rydyn ni'n tyfu i fyny ynddynt. Rwy'n defnyddio dulliau integreiddiol, gan blethu gwahanol fodelau at ei gilydd mewn ffordd sydd wedi'i deilwra i chi, yn hytrach na disgwyl i chi ffitio fformiwla.

​​

Wrth wraidd fy ymarfer mae gwerthoedd chwilfrydedd, parch a chydweithio. Nid wyf yn eich gweld chi fel "y broblem" i'w datrys, ond fel person sy'n gwneud eich gorau mewn amodau a allai fod wedi bod - neu sy'n dal i fod - yn anodd iawn.  Gyda'n gilydd, gallwn droi'n ofalus tuag at yr hyn sydd wedi teimlo'n ormod i'w ysgwyddo ar ein pennau ein hunain.

​​

Rwy'n cynnig galwad ymgynghori 20 munud am ddim i chi ofyn unrhyw gwestiynau a gweld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd. Cysylltwch â mi a gallwn drefnu galwad.

Cleientiaid rwy'n gweithio gyda nhw:

  • Mabwysiadu (unigolion mabwysiedig a rhieni mabwysiadol)

  • Problemau hunaniaeth/archwilio

  • Therapi cadarnhaol LHDTC+

  • Iselder

  • Gorbryder (gan gynnwys gorbryder perfformiad)

  • Trawma

  • Straen a Blinder

  • Hyder a Hunan-barch

  • Perthnasoedd a phroblemau yn ymwneud â rhyw

  • Anawsterau/gwrthdaro teuluol

  • Rhianta

  • Cyfnodau Pontio mewn Bywyd

  • Profedigaeth, galar a cholled

  • Dod o hyd i ystyr a phwrpas mewn bywyd

bottom of page