top of page


Carwyn Langdown
SEICOTHERAPI
Helo, croeso i'm gwefan. Carwyn ydw i a dwi’n cynnig gwasanaethau seicotherapi a chwnsela wyneb yn wyneb ac ar-lein yn Chorlton, De Manceinion.
Sut gall therapi fy helpu?
Mae pobl yn chwilio am therapi am amrywiaeth o resymau, boed hynny i helpu gydag iselder neu orbryder, yr ymdeimlad o fod ar goll, archwilio hunaniaeth, perthnasoedd neu am geisio newid rhywbeth amdanynt eu hunain.
Mae seicotherapi yn cynnig gofod cyfrinachol, cyson i arafu, gwrando'n agos arnoch chi'ch hun, a gwneud synnwyr o'r hyn sydd wedi eich siapio - fel y gall ffyrdd newydd o fyw ac ymwneud ddod yn bosib. Rwy'n cynnig gofod cynnes, diogel, heb feirniadaeth i'ch cefnogi gyda'r materion hyn.
​​​
Home
Fy Ngwasanaethau
Ar hyn o bryd rwy'n cynnig sesiynau wyneb yn wyneb ar ddydd Gwener yn fy ystafell therapi yn Sefydliad Seicotherapi Manceinion yn Chorlton, a hefyd yn cynnig sesiynau ar-lein trwy Zoom.
Rwy'n gweithio wyneb yn wyneb ac ar-lein ar ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm. Rwyf hefyd yn cynnig sesiynau ar-lein yn ystod nosweithiau eraill yn ystod yr wythnos rhwng 7pm a 9pm.
Rwy'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn cynnig therapi yn y ddwy iaith.


bottom of page